Ysgol Henblas, cyfarfodydd a gafwyd gan y Cyngor

The request was successful.

Dear Isle of Anglesey Council,
Cais Rhyddid Gwybodaeth

Copi o bob gohebiaeth ynglyn ag Ysgol Henblas rhwng Mai 2017 a Rhagfyr 2017 i'r 'u turn' o gadw yr ysgol yn agored ac adneiweddu i'r penderfyniad i cau yr ysgol...gan gynwys dogfenau, munudau mewn pwyllgorau a cyfarfodydd,llythyrau,e bost, memos ayyb

Yours faithfully,

Esyllt Evans

1 Attachment

Diolch am eich ymholiad am wybodaeth gan Cyngor Sir Ynys Môn.

 

Byddem yn ymateb i'ch ymholiad mewn 20 diwrnod gwaith, yn ôl Deddf Rhyddid
Gwybodaeth 2000.   Mewn rhai achosion ni fydd posib i ni ymateb o fewn y
cyfnod hwn.  Petai'r sefyllfa yma'n codi byddwn yn eich cynghori pryd
fyddwch yn debyg o dderbyn ymateb i'ch cais.

 

Yn gywir

 

 

Beryl Jones

Swyddog Gwybodaeth Corfforaethol a Chwynion

Corporate Information & Complaints Officer

Cyngor Sir Ynys Môn / Isle of Anglesey County Council

 

 

[1]cymraeg_ysgrifennwch

 

 

 

 

show quoted sections

Debra Griffiths, Isle of Anglesey County Council

2 Attachments

Prynhawn da,

Cyfeiriaf at eich cais am wybodaeth isod ac rwyf yn atodi cofnodion y
Pwyllgorau Canlynol:-

Mae cofnodion y Pwyllgor Gwaith i'w cael ar wefan y Cyngor -  gweler
[1]http://democratiaeth.ynysmon.gov.uk/ieLi....
Y rhain yw' rhai perthnasol 11.7.17 / 17.7.17 a 18.12.17 

Ers cyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 18 Rhagfyr 2018, mae sefyllfa Ysgol
Henblas wedi cael ei drafod ar lafar. Felly, nid oes cofnodion o unrhyw
'u-turn' honedig.  Fel mae’r ddogfen ymgynghori yn dweud ar dudalen 7: “Ar
ôl adolygu’r sefyllfa, penderfynodd y Pennaeth Dysgu mewn ymgynghoriad
gyda’r Prif Weithredwr a’r Deilydd Portffolio Dysgu Gydol Oes ar y 5
Chwefror 2018, i ail gychwyn y broses ymgynghori yn ardal orllewinol
Llangefni sef Ysgol Bodffordd, Ysgol Corn Hir ac Ysgol Henblas.
Gwnaethpwyd hyn yn unol â â paragraff 3.5.2.1/ 3.5.1.12  a 3.5.3.13.25 o
Gyfansoddiad Cyngor Sir Ynys Môn. Bydd hyn yn golygu bydd yr Awdurdod yn
trefnu cyfarfodydd ymgynghori gyda staff, llywodraethwyr a rhieni, fel
rhan o broses ymgynghori statudol. Canlyniad hyn mwy na thebyg yw na fydd
penderfyniad ar y ffordd ymlaen yn cael ei wneud gan y Pwyllgor Gwaith tan
ddiwedd Ebrill 2018.

Mae Cyfansoddiad y Cyngor are gael ar y We
[2]http://www.ynysmon.gov.uk/cyngor-a-democ...

Os nad ydych yn hapus gydag unrhyw agwedd o’r ymateb yma i’ch cais am
wybodaeth a/neu’r penderfyniad i atal gwybodaeth, mae’n bosib i chi ofyn
am adolygiad mewnol. Gyrrwch eich cais ymlaen i’r Swyddog Gofal Cwsmer,
Adain Gyfreithiol, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, LL77 7TW ( e-bost:
[3][email address] )

Os nad ydych yn hapus gyda chanlyniad yr adolygiad mewnol mae gennych yr
hawl i gysylltu’n unionyrchol gyda’r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe
House, Water Lane, Wilmslow SK9 5AF. Noder os gwelwch yn dda bod y
Comisiynydd yn debygol o ddisgwyl bod prosesau mewnol y Cyngor wedi eu
cwblhau cyn iddo ddechrau unrhyw ymchwiliad .

Diolch,

Debra Griffiths

Dysgu Gydol Oes / Lifelong Learning

Cyngor Sir Ynys Môn / Isle of Anglesey County Council

01248 752922

 

[4]cymraeg        [5]cymraeg logo

 

show quoted sections