Y Saeson

Robin made this Freedom of Information request to North Wales Police This request has been closed to new correspondence. Contact us if you think it should be reopened.

The request was refused by North Wales Police.

Annwyl Heddlu Gogledd Cymru,

Dwedwch:

* pa ganran o bobl a gafwyd yn euog o drosedd yn ardal Heddlu'r Gogledd y llynedd sydd wedi'u geni yn Lloegr

* pa ganran o boblogaeth gyfan yr un ardal sydd wedi'u geni yn
Lloegr - neu bwy fyddai'n gwybod hyn

Diolch,
Robin

Freedom of Information Team,

1 Attachment

Annwyl Robin,

 

Rhif ymholiad: 2014/795

 

Rwy’n cydnabod derbyn eich e-bost ar 14/11/2014 yn holi am y wybodaeth
ganlynol:

 

* pa ganran o bobl a gafwyd yn euog o drosedd yn ardal Heddlu'r Gogledd y
llynedd sydd wedi'u geni yn Lloegr

 

* pa ganran o boblogaeth gyfan yr un ardal sydd wedi'u geni yn Lloegr -
neu bwy fyddai'n gwybod hyn

 

Mae Adran 8 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn nodi bod yn rhaid i gais gael
ei wneud yn ysgrifenedig; rhaid darparu enw’r ymgeisydd a chyfeiriad ar
gyfer gohebiaeth, yn ogystal â disgrifiad o’r wybodaeth y gofynnwyd
amdani. Er mwyn i gais fod yn ddilys o dan Adran 8 mae’n rhaid i’r sawl
sy’n ymgeisio am y wybodaeth honno ddefnyddio ei enw cywir, yn hytrach na
ffugenw.

 

Felly, allwch chi ein darparu â’ch enw llawn os gwelwch yn dda?

 

Yn anffodus, ni allwn brosesu eich cais tan y byddwn wedi derbyn manylion
eich enw llawn a bydd y cloc yn stopio tan y byddwn yn derbyn eich ymateb.

 

Mae croeso i chi gysylltu â mi os hoffech drafod y mater ymhellach.

 

Yn gywir, 

 

p.p. Jeff Cody

Ymchwilydd Rhyddid Gwybodaeth/Freedom of Information Researcher

Uned Rhyddid Gwybodaeth a’r Cynllun Cyhoeddi/ Freedom of Information and
Publication Scheme Unit                         

Prif Swyddog Gwybodaeth/ Chief Information Officer

Gwasanaethau Corfforaethol/Corporate Services

Ffôn /Phone 01492 805352

Est/ Ext 05352

E.bost/ E.mail [1][email address]

[2]Description: Description: 1 NWP Strapline Logo Colour (B)

 

 

References

Visible links
1. mailto:[email address]

Annwyl Syr / Madam,

O leiaf dwi di rhoi enw cyntaf. Chi sy'n hollol ddienw, annwyl ysgrifennydd(es) "p. p." Mr Cody.

Iawn, dwi'n tynnu fy nghais, ond o dan brotest am safonau dwbl.

Robin

Freedom of Information Team,

Annwyl Robin,

Diolch am eich e-bost.

Hoffwn gadarnhau bod fy llofnod yn yr e-bost a anfonais atoch ar 14 Tachwedd yn nodi fy enw fel Jeff Cody, ac nid Mr Cody fel yr ydych wedi’i nodi. Rwy’n derbyn eich e-bost fel hysbysiad ohonoch yn tynnu eich cais Rhyddid Gwybodaeth yn ôl. Fodd bynnag, os darperwch eich enw llawn fel y gofynnwyd amdano, byddaf yn eich darparu chi â’r wybodaeth, yn amodol ar yr eithriadau perthnasol.
---------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
Dear Robin,

Thank you for your email.

I would like to clarify that my signature in the email sent to you on the 14th November detailed my name as Jeff Cody, and not Mr Cody as you have claimed. I accept your email as a withdrawal of your Freedom of Information request. However, if you provide your full name as requested I will provide the information, subject to relevant exemptions.

Jeff Cody
Ymchwilydd Rhyddid Gwybodaeth/Freedom of Information Researcher
Uned Rhyddid Gwybodaeth/Freedom of Information Unit
Prif Swyddog Gwybodaeth/ Chief Information Officer
Gwasanaethau Corfforaethol/Corporate Services
Ffôn /Phone 01492 805352
Est/ Ext 05352
E.bost/ E.mail jeff[email address]

show quoted sections

Dear Freedom of Information Team,

You missed the point. Your email was signed with "p.p.", implying that somebody else was writing it on your behalf. That somebody was not named, which is why I claimed that the sender was anonymous. If it was really you, then okay I accept that, but it's not what you wrote. In any case, I still do not wish to supply my surname, so I'll just have to live without the answer to my question.

Yours sincerely,
Robin

Robin (Account suspended) left an annotation ()

Pobol ddiflas.