Llety i fyfyrwyr Cymraeg / Welsh-speaking student accommodation

The request was successful.

Annwyl Brifysgol Bangor / Dear Bangor University,

--------------

Dwi'n nodi bod rhan o'ch llety i fyfyrwyr yn neilltuedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg sydd am fyw gyda'i gilydd. All gofyn am ystafell mewn fflat Cymraeg yn newid siawns y bydd myfyriwr yn llwyddianus mewn derbyn llety'r brifysgol, neu ydych chi'n sicrhau bod pawb â'r un siawns o gael llety boed nhw'n gofyn i fyw gyda siaradwyr Gymraeg neu beidio? Rhowch ddigon o fanylion am y proses dyrannu er mwyn dangos yn glir sut mae'n gweithredu ynglyn â'r pwynt hwn.

Nodwch bydd copi o'ch ymateb yn cael ei gyhoeddi'n awtomatig ar y wefan whatdotheyknow.com. Fy mwriad yw bydd y gwybodaeth yn ymddangos yno yn ddwyieithog. Dwi'n gofyn am ymateb yn Gymraeg, sydd yn eich unig ddyletswydd gyfreithiol felly, ond os ymatebwch yn unieithog Gymraeg, ychwanegaf gyfieithad Saesneg fy hun. Os ydych am gael rheolaeth dros destun y fersiwn Saesneg a gyhoeddir, ymatebwch yn ddwyieithog os gwelwch yn dda.

-------------

I note that part of your student accommodation is reserved for Welsh speakers wishing to live together. Could asking for a room in a Welsh-speaking flat alter the chance of a student being successful in obtaining university accommodation, or do you ensure that everybody gets the same chance of getting accommodation regardless of whether or not they ask to live with Welsh speakers? Please provide enough detail about the allocation process to show clearly how it works regarding this point.

Please note that a copy of your answer will be published automatically on the website of whatdotheyknow.com. My intention is that the information will appear there bilingually. I am requesting a response in Welsh, which is therefore your only legal duty, but if you reply in monolingual Welsh then I will add an English translation myself. If you want control over the text of the English version that is published, please reply bilingually.

--------------

Yn gywir / Yours faithfully,
Perry Icso

Information Compliance Shared mailbox, Bangor University

 

Ein Cyf: FOI767

Annwyl Perry Icso

Diolch am eich cais Deddf Rhyddid Gwybodaeth a dderbyniwyd ar 10 Tachwedd,
2014.

Byddwn yn awr yn ystyried eich cais a byddwch yn derbyn y wybodaeth y
gofynnwyd amdani o fewn y raddfa amser statudol o 20 niwrnod gwaith fel y
diffinnir gan y Ddeddf, a chymryd nad yw'r wybodaeth wedi'i heithrio, neu
nad yw'n cynnwys cyfeiriad at drydydd parti. 

Er gwybodaeth i chi, mae'r Ddeddf yn diffinio nifer o eithriadau a all
atal rhyddhau gwybodaeth rydych wedi gofyn amdani. Ceir asesiad, ac os oes
unrhyw rai o'r categorïau eithrio yn berthnasol, yna ni chaiff y wybodaeth
ei rhyddhau. Rhoddir gwybod i chi os mai hyn yw'r achos, yn cynnwys eich
hawliau apelio.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn y cyfamser yna cysylltwch â ni.

Cofion
Tîm Cydymffurfio

 

 

 

Our Ref: FOI767

 

Dear Perry Icso

 

Thank you for your Freedom of Information request, received on 10 November
2014.

 

We will now consider your request and you will receive the information
requested within

the statutory timescale of 20 working days as defined by the Freedom of
Information Act

2000, subject to the information not being exempt or containing reference
to a third party.

 

For your information, the Act defines a number of exemptions which may
prevent release

of the information you have requested. There will be an assessment and if
any of the

exemption categories apply then the information will not be released. You
will be informed

if this is the case, including your rights of appeal.

 

If you have any queries please contact us.

 

 

Kind regards

Compliance Team

 

 

 

[1]http://www.bangor.ac.uk/emailtpl/logo-a2... Tîm Cydymffurfio Compliance Team
Swyddfa Cynllunio & Llywodraethu
Planning & Governance Office
E-bost: [2][Bangor University request email]
Ffôn: 01248 382776 Email: [7][Bangor University request email]
Phone: 01248 382776
Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG
Bangor University, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG
[3]http://www.bangor.ac.uk/emailtpl/twitter...
[5]http://www.bangor.ac.uk/emailtpl/faceboo... [8]http://www.bangor.ac.uk/emailtpl/twitter...
[10]http://www.bangor.ac.uk/emailtpl/faceboo...

 

 

Rhif Elusen Gofrestredig 1141565 - Registered Charity No. 1141565

Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, gynnwys
deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig gan y sawl y
cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y neges e-bost hon
trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith a dilewch y neges.
Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i chi beidio a defnyddio,
cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu
safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn
cynrychioli barn Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu bod
y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu 100% yn
ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun yr
e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol - mae
rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid Prifysgol Bangor.

This email and any attachments may contain confidential material and is
solely for the use of the intended recipient(s). If you have received this
email in error, please notify the sender immediately and delete this
email. If you are not the intended recipient(s), you must not use, retain
or disclose any information contained in this email. Any views or opinions
are solely those of the sender and do not necessarily represent those of
Bangor University. Bangor University does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless expressly
stated in the body of the text of the email, this email is not intended to
form a binding contract - a list of authorised signatories is available
from the Bangor University Finance Office.

References

Visible links
1. http://www.bangor.ac.uk/
2. mailto:[Bangor University request email]
3. https://twitter.com/prifysgolbangor
4. https://twitter.com/prifysgolbangor
5. https://www.facebook.com/PrifysgolBangor
6. https://www.facebook.com/PrifysgolBangor
7. mailto:[Bangor University request email]
8. https://twitter.com/BangorUni
9. https://twitter.com/BangorUni
10. https://www.facebook.com/BangorUniversity
11. https://www.facebook.com/BangorUniversity

Information Compliance Shared mailbox, Bangor University

Ein Cyf: FOI 767

 

Annwyl Perry Icso

 

Ymhellach i’ch cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth mae ymateb y
Brifysgol isod:-

 

Dwi'n nodi bod rhan o'ch llety i fyfyrwyr yn neilltuedig ar gyfer
siaradwyr Cymraeg sydd am fyw gyda'i gilydd. All gofyn am ystafell mewn
fflat Cymraeg yn newid siawns y bydd myfyriwr yn llwyddianus mewn derbyn
llety'r brifysgol, neu ydych chi'n sicrhau bod pawb â'r un siawns o gael
llety boed nhw'n gofyn i fyw gyda siaradwyr Gymraeg neu beidio? Rhowch
ddigon o fanylion am y proses dyrannu er mwyn dangos yn glir sut mae'n
gweithredu ynglyn â'r pwynt hwn.

 

Mae'r Brifysgol yn gwarantu llety i holl fyfyrwyr isradd blwyddyn gyntaf
sy'n gwneud cais o fewn yr amserlen benodedig - sef erbyn 31 Gorffennaf ar
hyn o bryd. Gofynnir i fyfyrwyr nodi 3 neuadd yr hoffent fyw ynddynt, ac
mae'r Brifysgol yn gwneud ei gorau i gyflawni'r dewisiadau hyn, ond ni all
warantu hyn.

 

Mae Cwestiynau Cyffredin y Brifysgol yn nodi sut caiff ystafelloedd eu
pennu ar hyn o bryd:

 

A: Byddwn yn gwneud ein gorau i gynnig lle ichi mewn math o neuadd yr
ydych wedi gwneud cais i ddod iddi. Fodd bynnag, nid yw hyn bob amser yn
bosibl, am fod y galw’n amrywio o flwyddyn i flwyddyn, felly nid oes modd
darogan pa neuaddau fydd yn brin. Efallai y cynigir neuadd i chi weithiau
na fu i chi ei nodi ar eich ffurflen. Ni fydd ystafelloedd yn cael pennu
hyd nes y cadarnheir fod gan fyfyriwr le yn y Brifysgol, ac ni phennir
unrhyw ystafelloedd tan ddechrau Awst. Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau yn
unol â’r drefn hon o gategorïau derbyn.

 

·         Cynnig Pendant Diamod

·         Cynnig Pendant Amodol

·         Cynnig Amodol Wrth Gefn

·         Clirio

 

O fewn pob categori, rhoddir ystyriaeth hefyd i’r dyddiad y derbynnir pob
cais gan y Swyddfa Neuaddau. Mae’r dyddiad y daw eich cynnig yn un Diamod
hefyd yn bwysig iawn yn y broses pennu lle.

 

Rydym yn gwarantu llety mewn neuadd breswyl i fyfyrwyr israddedig newydd
ond mae'n bosib y bydd rhai neuaddau'n llawn erbyn yr adeg y bydd
ceisiadau hwyr yn cael eu prosesu. Mae rhai neuaddau’n llenwi’n hynod o
gyflym, ac nid ydym yn gwarantu y caiff yr un myfyriwr mewn unrhyw
gategori le mewn neuadd benodol. Os byddwch chi’n gwneud cais hwyr (ar ôl
31 Gorffennaf) ni allwn warantu ystafell i chi, ac efallai y bydd hi’n
cymryd dipyn o amser cyn i ni allu dweud wrthych a oes unrhyw ystafelloedd
ar gael.

 

Fodd bynnag, rydym yn sylwi bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr Bangor yn mwynhau
byw yn y llety y cynigir iddynt, beth bynnag bo’u dewis gwreiddiol.

 

 

I note that part of your student accommodation is reserved for Welsh
speakers wishing to live together. Could asking for a room in a
Welsh-speaking flat alter the chance of a student being successful in
obtaining university accommodation, or do you ensure that everybody gets
the same chance of getting accommodation regardless of whether or not they
ask to live with Welsh speakers?  Please provide enough detail about the
allocation process to show clearly how it works regarding this point.

 

The University guarantees accommodation to all first year undergraduate
students who make an application within the given timeframe – currently by
31 July.  Students are asked to specify 3 halls in which they would like
to live, and the University does its best to fulfil these choices but
cannot guarantee this.

 

The University’s FAQs state how rooms are currently allocated:

 

A: We will do our best to offer you a place in a type of hall for which
you have applied.  However this is not always possible and fluctuations in
demand from year to year make it impossible to predict which halls will be
oversubscribed.  You may sometimes be offered accommodation for which you
did not state a preference. Rooms are not allocated until a student’s
place at the University is confirmed and no rooms are allocated until
early August.  Applications are prioritised in the following order of
admissions category.

 

·         Unconditional Firm

·         Conditional Firm

·         Conditional Insurance

·         Clearing

 

Within each category the date on which the application is received by the
Halls Office is also taken into account.  The date your offer becomes
Unconditional is also very important in the allocation process. 

 

New undergraduate students are guaranteed accommodation in a hall of
residence but certain residences will inevitably be full by the time the
later applications are processed.  Some residences fill up very quickly
indeed and no student in any category is guaranteed a place in a
particular residence.  If you make a late application (after 31 July) we
cannot guarantee you a room and it may be some time before we can tell you
if any rooms are available.

 

We do find however that most Bangor students enjoy living in the
accommodation they are offered whatever their original preferences were.

 

Mae gan y Brifysgol drefn gwyno ffurfiol. Os ydych chi’n anhapus gyda’r
gwasanaeth yr ydych wedi ei dderbyn mewn cysylltiad â'r cais ac yn dymuno
gwneud cwyn neu ofyn am arolwg o'n penderfyniad, yna cysylltwch â’r
Swyddfa Cynllunio & Llywodraethu ([1][Bangor University request email]) yn
gyntaf.

Cofion,

Tîm Cydymffurfio

 

[2]http://www.bangor.ac.uk/emailtpl/logo-a2... Tîm Cydymffurfio Compliance Team
Swyddfa Cynllunio & Llywodraethu
Planning & Governance Office
E-bost: [3][Bangor University request email]
Ffôn: 01248 382776 Email: [8][Bangor University request email]
Phone: 01248 382776
Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG
Bangor University, Bangor, Gwynedd, LL57 2DG
[4]http://www.bangor.ac.uk/emailtpl/twitter...
[6]http://www.bangor.ac.uk/emailtpl/faceboo... [9]http://www.bangor.ac.uk/emailtpl/twitter...
[11]http://www.bangor.ac.uk/emailtpl/faceboo...

 

show quoted sections

Dear Information Compliance Shared mailbox,

Diolch yn fawr am yr ymateb / many thanks for the reply.

Yn gywir,
Perry Icso