Expenses for Meirion Davies since 2005

Waiting for an internal review by Channel Four Wales of their handling of this request.

Annwyl Sianel Pedwar Cymru

Fe hoffwn cael gweld hawliadau treuliau Meirion Davies o Ionawr 2005 at Ebrill 2011

Yn gywir

Prys ap Sion

Dear Sianel Pedwar Cymru / Channel Four Wales,

Please provide the expenses claimed by Meirion Davies from
January 2005 to April 2011

Yours faithfully,

Prys ap Sion

Angharad Williams,

Annwyl Prys ap Sion

Ysgrifennaf atoch i gydnabod derbyn eich e-bost isod ar 19 Mehefin 2011.

O dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y 'Deddf') mae gan S4C ddyletswydd i ymateb i'ch cais yn brydlon ac o fewn 20 diwrnod o dderbyn y cais, sef 15 Gorffenaf 2011 yn yr achos yma.

Fodd bynnag, mae'r Ddeddf yn caniatáu i ni ymestyn yr amser i ymateb mewn rhai amgylchiadau, os oes angen eglurhad pellach o'r cais, er enghraifft, neu am resymau eraill yn unol â'r Ddeddf.

Byddaf mewn cysylltiad o fewn yr amser penodedig ar ôl i mi ystyried eich cais.

Yn gywir

Phil Williams

show quoted sections

Annwyl Phil Williams,

Ynglyn – Expenses for Meirion Davies since 2005

Dywedais yn dy lythyr ar y 22ain o Fehefin 2011

"O dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (y 'Deddf') mae gan S4C ddyletswydd i ymateb i'ch cais yn brydlon ac o fewn 20 diwrnod o dderbyn y cais, sef 15 Gorffenaf 2011 yn yr achos yma.

Byddaf mewn cysylltiad o fewn yr amser penodedig ar ôl i mi ystyried eich cais.

Yn gywir

Phil Williams"

Nid wyt wedi cadw at dy air ar ran S4C, gan nad oedd ymateb ar y safle yma borema!

Pa reswm sydd gan ti am beidio gweud dy ddyletswydd yn ol y deddf?

Pa dyddiad fydd fy nhgwestiwn yn cael ateb?

Yn Gywir

Prys ap Sion Hughes
18/07/2011

Angharad Williams,

Annwyl Prys ap Sion

Ymddiheuriadau nad ydym wedi ymateb i'ch cais rhyddid gwybodaeth hyd yma.
Rydym ar hyn o bryd yn delio gyda nifer fawr o geisiadau am wybodaeth.

Rydym wrthi yn prosesu eich cais.

Ymddiheuriadau unwaith eto am yr oedi.

Yn gywir

Phil Williams

show quoted sections