Monitro enwau Strydoedd Cymraeg

The request was partially successful.

Annwyl Adran Enwi a Rhifo Strydoedd,

Yn unol â'ch arweiniad a gweithdrefn Enwi a Rhifo Strydoedd , Mawrth 2010, Adran 5.2 isbwynt 5, a wnewch darpari gopi o bob dogfen monitro enwi strydoedd yn Gymraeg a'r Saesneg.

A fedrwch ddynodi faint mae "Standard Signs 01633 256406" wedi talu ar gyfer hysbyseb ar gornel pob arwydd stryd newydd, a pham bod eu hysbyseb yn uniaith Saesneg. Os nad ydynt wedi talu am hysbysu, a fedrwch ddynodi cost pob arwydd, a chastiau cwmnïoedd eraill heb ei enw ar yr arwydd.

Wrth ystyried yr arwyddion newydd; a wnewch ddynodi pa broses a defnyddiwyd i sicrhau safoni arwyddion, yn enwedig o ystyried canllawiau Safoni Enwau Lleoedd Cymru, Comisiynydd y Gymraeg.

Yr eiddoch yn ffyddlon,

C Davies

Annwyl Adran Enwi a Rhifo Strydoedd,

Yn ôl y gyfraith, dylai'r awdurdod wedi ymateb yn brydlon i'm cais erbyn hyn, ac fel rheol dim hwyrach na Mawrth 13, 2015.

Yr eiddoch yn ffyddlon,

C Davies

Brown, Andrew (Culture & Rec), Swansea Council

Annwyl C. Davies,

 

Diolch am eich cais am wybodaeth dyddiedig ac a dderbyniwyd ar 15 Chwefror
2015.

 

Dyma'ch cais:

 

Annwyl Adran Enwi a Rhifo Strydoedd,

 

Yn unol â'ch  arweiniad a gweithdrefn Enwi a Rhifo Strydoedd , Mawrth
2010, Adran 5.2 isbwynt 5, a wnewch darpari gopi o bob dogfen monitro enwi
strydoedd yn Gymraeg a'r Saesneg.

 

A fedrwch ddynodi faint mae "Standard Signs 01633 256406" wedi talu ar
gyfer hysbyseb ar gornel pob arwydd stryd newydd, a pham bod eu hysbyseb
yn uniaith Saesneg. Os nad ydynt wedi talu am hysbysu, a fedrwch ddynodi
cost pob arwydd, a chastiau cwmnïoedd eraill heb ei enw ar yr arwydd.

 

Wrth ystyried yr arwyddion newydd; a wnewch ddynodi pa broses a
defnyddiwyd i sicrhau safoni arwyddion, yn enwedig o ystyried canllawiau
Safoni Enwau Lleoedd Cymru, Comisiynydd y Gymraeg.

 

Yr eiddoch yn ffyddlon,

 

Nid wy'n hollol siŵr beth rydych yn ei olygu wrth 'a wnewch darpari gopi o
bob dogfen monitro enwi strydoedd yn Gymraeg a'r Saesneg'. Os gallech chi
esbonio'n union beth rydych yn ei olygu, byddaf yn ceisio ateb y rhan hon
o'ch cais.

 

Isod ceir y penderfyniad polisi ar gyfer enwi strydoedd. Nid ydym yn enwi
strydoedd yn ddwyieithog ond rydym i fod i gynnal cydbwysedd yn nifer yr
enwau Cymraeg a Saesneg.

 

show quoted sections

Annwyl Dinas a Sir Abertawe,

Trosglwyddwch y neges hon i'r person sy'n cynnal adolygiadau Rhyddid Gwybodaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ynghyd a'r person sy'n gyfrifol am eich Cynllun Iaith Gymraeg os gwelwch yn dda.

Rwyf yn ysgrifennu i ofyn am adolygiad mewnol o'r ffordd yr ydych wedi ymdrin â'm cais Rhyddid Gwybodaeth 'Monitro enwau Strydoedd Cymraeg'. Fe ofynnwyd yn glir am yr holl wybodaeth ynglŷn â'ch monitro fel sy'n ofynnol yn eich cynllun iaith.

NI RODDAF CANIATAID HAWLFRAINT I GYFIEITHU NA CHRYNHOI'R CYFATHREBIAD YMA I'R SAESNEG. CODAF TAL O £200 AM UNRHYW GYFIEITHIAD NEU GRYNODEB HEB AWDURDOD. CANIATEIR DYFYNNU MEWN DOGFENNAU CYFRWNG CYMRAEG YN UNIG AT DDIBEN YMATEB I'R CAIS. MAE'R AMODAU YMA YN CYD-FYND A'CH ADDEWID DAN EICH CYNLLUN IAITH GYMRAEG.

Mae hanes llawn fy nghais Rhyddid Gwybodaeth a'r holl ohebiaeth ar gael ar y Rhyngrwyd yn y cyfeiriad hwn: https://www.whatdotheyknow.com/cy/reques...

Yr eiddoch yn ffyddlon,
C Davies

Taylor, Andrew, Swansea Council

1 Attachment

Annwyl Mr Davies

 

Amgaeaf y llythyr ymateb i’ch cais am adolygiad, yn unol â darpariaethau
Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

 

Cofion

 

Andrew Taylor 

Rheolwr Tîm Cwynion
01792 63 7290

 

show quoted sections

Taylor, Andrew, Swansea Council

1 Attachment

Annwyl Mr Davies

 

Ymddiheuriadau, dyma’r atodiad fel addawyd.

 

Cofion

 

Andrew Taylor 

Rheolwr Tîm Cwynion
01792 63 7290

 

From: Taylor, Andrew
Sent: 06 October 2015 15:15
To: '[FOI #254006 email]'
Subject: Ymateb Adolygu Rhyddid Gwybodaeth / Freedom of Information review
response - ref 00211266

 

Annwyl Mr Davies

 

Amgaeaf y llythyr ymateb i’ch cais am adolygiad, yn unol â darpariaethau
Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

 

Cofion

 

Andrew Taylor 

Rheolwr Tîm Cwynion
01792 63 7290

 

show quoted sections

Annwyl Andrew Taylor,

Diolch am eich ateb oediog. A wnewch ystyried hwn yn gŵyn swyddogol nad ydych wedi cynnal unrhyw monitro o enwau strydoedd newydd yn unol â pharagraff 7.5.2 o Gynllun Iaith Cymraeg 2011-2014 y Sir (y Polisi). A wnewch sicrhau bod hyn yn adroddiad monitro blynyddol nesaf y Cynllun. Nodaf nad ydych wedi enwi'r un stryd yn Gymraeg yn y ddwy flynedd diwethaf, felly gofynnaf i chwi ailenwi strydoedd er mwyn cydymffurfiaf a'ch Polisi. Os na wnewch, yna fe gyfeiriaf y mater i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru er mwyn eich gorfodi i wneud hyn.

Fel nodir ym mharagraff 7.5.1 o'r Cynllun, mae dyletswydd statudol ar y Cyngor i gynnal rhestrau cywir. Nid yw'r rhestr yr ydych wedi darparu yn gywir, gan gan fod nifer o wallau yn y rhestr Cymraeg.

Nid yw'r enwau canlynol yn rhai Cymraeg:
1. Clos Arthur Morris
2. Ffordd Watkins, Birchgrove
3. Ffordd Donaldson, Copper Quarter
4. Glanbran Close, Birchgrove
5. Tidal Reach, Pontarddulais
6. Maes De Braose, Gorseinon

Maent naill ai yn Saesneg (rhif 5), neu'n rhannol Saesneg (1-4) / Ffrangeg (6), o ganlyniad ni ddylid ystyried y rhain yn rhai Cymraeg.

A wnewch chi hefyd esbonio i mi beth yw "Coegylfinir", gair ni allaf ddod o hyd i ystyr iddo.

Mae'r enw "Llys Gwyr" yn anghywir, dylai’r enw fod yn "Llys Gŵyr", sydd ag ystyr hollol wahanol. Yn anffodus mae'r arwydd stryd ar gyfer yr heol yma'n ymddangos ag enw Saesneg mewn cromfachau, a wnewch ddiddymu'r Saesneg yma, gan nid yw'n cydymffurfio a'r Polisi.

Yn ôl Deddf Rhyddid Wybodaeth, mae yna ddyletswydd i ymateb yn brydlon. A fedrwch esbonio pam bod dyddiad y ddogfen a rhyddhawyd wedi'i ddyddio 30/09/2015, yr enw ffeil uniaith Saesneg, (yn groes i'ch cynllun iaith) yn dynodi'r ail o Hydref, a'r ymateb ar y 6ed Hydref. Yn ychwanegol a fedrwch ddarparu llinyn amser eich ymateb.

Ym mharagraff 7.5.3 y Polisi, nodaf ei bod yn ofynnol i chwi derbyn a chofrestru enwau Cymraeg os byddant yn bodoli. Bydd arwyddion enwau strydoedd yn adlewyrchu hyn. Hysbysebais chwi o enw Cymraeg a ddefnyddir ar Stryd Iago pum mlynedd yn ôl [1], a wnewch gofrestru hyn a newid yr arwydd a chyfeiriais ato ar Chwefror 15, 2015 yn unol â'r Polisi.

Yn olaf, nid yw paragraff 7.6.1 yn caniatáu eithriad i enwau strydoedd a lleoedd, felly mae hyn yn groes i'r polisi ar enwau. O ganlyniad dylai bob stryd fod ym meddiant enw Cymraeg, ond nid o'r rheidrwydd y Saesneg. Nodaf ym mharagraff 7.6.1 "dylid arddangos y Gymraeg a'r Saesneg yn eu tro", felly pam bod eich holl arwyddion yn arddangos y Saesneg yn gyntaf?

Yr eiddoch yn gywir,

C W Davies

[1] https://www.whatdotheyknow.com/cy/reques...

Mark Lewis, Swansea Council

1 Attachment

Lewis, Mark, Swansea Council

1 Attachment

 

 

 

Information & Business Change Gwybodaeth a Newid Busnes
City & County of Swansea Dinas a Sir Abertawe
[1]www.swansea.gov.uk [2]www.abertawe.gov.uk

 

 

show quoted sections

References

Visible links
1. http://www.swansea.gov.uk/
http://www.swansea.gov.uk/
2. http://www.abertawe.gov.uk/
http://www.abertawe.gov.uk/

Annwyl Mark Lewis,

Ystyriwch hwn yn ymateb Cam 2 eich gweithdrefn gwyno.

Ar y 4ydd Rhagfyr 2015 anfonais y canlynol i'r Sir (dyfyniad o restr hirach):

"Gwrthwynebaf eich Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Arfaethedig cyfeirnod DVT-00212420/RDC am y rhesymau canlynol:
1) Nid oes cyfeiriad cyswllt i ddarparu gwrthwynebiad ar eich hysbysiadau a gosodwyd wrth yr heolydd perthnasol.
2) Nid yw'r enwau'r heolydd yr ydych wedi ei defnyddio yn y fersiwn Cymraeg yn bydoli yn y "National Street Gazetteer" (NSG), o ganlyniad nid yw'r hysbysiad yn ddilys, o ystyried Mesur yr Iaith Gymraeg, sy'n dynodi'r Gymraeg fel yr unig iaith swyddogol. Yn unol â chynllun iaith y sir, mae'n ofynnol i chi felly newid arwyddion pob stryd sydd yn yr hysbysiad a'u chofrestru yn y NSG os ydych am i'r hysbysiad fod yn ddilys, cyn ei fod yn medru mynd yn ei flaen. Nodaf fod nifer o rain, megis Heol Alltiago, yn enwau Cymraeg gwreiddiol, sydd wedi ei Seisnigeiddio, felly dyllir ystyried diddymu'r fersiynau Saesneg."

Fel nodwyd uchod, rhydych eisoes yn defnyddio enwau Cymraeg strydoedd mewn cyd-destun cyfreithiol, er nad yw Adran Enwi a Rhifo Strydoedd yn cydymffurfio a'ch Cynllun Iaith.

Cyfeiriaf eto at y Cynllun Iaith, polisi dyddiedig 30 Mawrth 2011. Mae hyn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw bolisi blaenorol.

Eto:
7.5.2 ...y rheol am enwau strydoedd newydd yw defnyddio enwau Cymraeg a Saesneg bob yn ail...

Nid ydych wedi ystyried y rheol gyffredinol yma dros gyfnod o ddwy flynedd, ac nad ydych wedi darparu unrhyw dystiolaeth eich bod wedi ystyried enwau Cymraeg ar bob achlysur.

7.5.3 ....bydd y cyngor yn datblygu strategaeth i sicrhau cydnabyddiaeth ffurfiau Cymraeg a Saesneg ar enw stryd...

Nid ydych wedi darparu copi o'r strategaeth, felly gan gyfeirio at fy nghyfathrebiad ar 4ydd Rhagfur:

7.5.3 ...Bydd arwyddion enwau strydoedd yn adlewyrchu hyn.

Nid yw'r arwyddion yn adlewyrchu eich defnydd o'r enwau Cymraeg a ddefnyddir.

7.5.4 ...Lle y bo'n briodol, bydd y Cyngor yn gofyn i wasanaeth ymgynghori Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar enwau lleoedd am gyngor ar ffurfiau safonol enwau lleoedd....

A wnewch felly esbonio pam eich bod yn defnyddio 'Pontardulais' yn hytrach nag 'Pontarddulais'. Mae'n ofynnol i chwi safonau ar hyn, a Phontarddulais ydyw yn ôl Rhestr o Enwau Lleoedd a dynodir yn rhan o Ganllawiau Safoni Enwau Lleoedd Llywodraeth Cymru.

7.6.2 Bydd pob arwydd newydd, boed dros dro neu'n barhaol, ar eiddo'r cyngor mewn mannau sydd ar agor i'r cyhoedd, yn gwbl ddwyieithog gyda'r Gymraeg a'r Saesneg mor amlwg â'i gilydd.

Fel yr ydych wedi cytuno, nid yw hyn yn cyd-fynd ag Adran 5, ond dyma'r unig ran sy'n berthnasol i Arwyddion Strydoedd, mae hyn yn cymryd blaenoriaeth dros Adran 7.5.2, a bod adran 7.6.2 yn cyd-fynd ag Adrannau 7.5.3 a 7.5.4.

Yn olaf, yn eich e-bost 17eg Mawrth 2015, nodoch "ni ddylid gosod unrhyw hysbysebu o fewn 300mm (12 modfedd) i du blaen plât enw stryd", a "Caiff platiau enwau strydoedd eu cynhyrchu i fanylebau penodol. Mae gan bob awdurdod lleol ei fanyleb ei hun ond dylai pob dyluniad fodloni argymhellion cylchlythyr 15/94 y Swyddfa Gymreig a ddosbarthwyd i brif weithredwyr cynghorau sir, cynghorau dosbarth a chynghorau bwrdeistref Cymru ar 7 Mawrth 1994." Nid yw hyn felly yn caniatáu i "Standard Signs 01633 256406" ymddangos yn ymyl du'r plât. Felly a wnewch ddarparu rhestr lawn o'r Arwyddion Stryd yr ydych wedi ei adnewyddi ers 30ain Mawrth 2011. Yn ddelfrydol darparwch enw'r stryd, pentref, a nifer o arwyddion a newidiwyd a phwy wnaeth yr arwydd.

Yr eiddoch yn gywir,

C W Davies

Annwyl Mark Lewis,

Nid wyf wedi derbyn cydnabyddiaeth a'm cwyn Cam 2, a wnewch gadarnhau eich bod yn ymdrin â'r cwyn a byddaf yn derbyn ymateb cyn 2ail Chwefror.

Dylech nodi bod bob rhan o'r cwyn Cam 1 yn berthnasol, a dim ond ymateb i bwyntiau penodol yr wyf wedi gwneud yng Ngham 2. Nodaf yng Ngham 1 ni wnaethoch ymateb i'r rhan olaf.

Yr eiddoch yn gywir,

C W Davies

Taylor, Andrew, Swansea Council

1 Attachment

Annwyl Mr Davies

 

Ynghlwm mae llythyr yn cydnabod derbyniad eich cwyn.

 

Yn gywir

 

Andrew Taylor

show quoted sections

Taylor, Andrew, Swansea Council

1 Attachment

Annwyl Mr Davies,

 

Ynghlwm mae llythur ymateb i’ch cwyn cyfnod 2.

 

Cofion,

 

Andrew Taylor

Rheolwr Cwynion

 

show quoted sections

Perry Icso left an annotation ()

The enquirer has stated that (regarding copyright) he/she does not give permission to translate or summarise this request into English, that permission is granted to quote from it in Welsh language documents only, and that he/she will charge £200 for any unauthorised English language summaries or translations.

The enquirer's comments about copyright were probably aimed primarily at the council, in order to try to force them to use Welsh internally as well as in correspondence with the enquirer. However, they also have a chilling effect on other users of this website. The objective of this website is that questions and responses are shared with the general public, and nobody is obliged to use this website if they would prefer to email the council directly. So whilst enquirers have every right to use Welsh and to expect responses in Welsh, it should not be used as a means to hide information from third parties.

The threat is also largely unenforceable. Although copyright law protects verbatim copies (including direct translations) of substantial portions of the author's own words, it in no way protects paraphrases or summaries of the information content. Also it does not protect quotations (including direct translations) of short extracts for critical discussion.

Accordingly, if any interested person wants an English language summary or paraphrase of any part of this discussion, and an adequate translation cannot be obtained using Google Translate, please request it via follow-up comment or private message, and I will do my best to provide one. However, it is a long thread, so the more you narrow down the bit you need translated, the more likely it is that I will help.

Perry Icso left an annotation ()

Followup request made at
https://www.whatdotheyknow.com/request/l...

As I am apparently not allowed to translate "CODAF TAL O £200" into English, I instead translate it into Welsh: "CODAF DÂL O £200".

Perry Icso left an annotation ()

And so there we have it: an English language translation of the request for internal review, courtesy of Swansea Council.

https://www.whatdotheyknow.com/request/3...

It is clear from their response that the legal threat regarding unauthorised translations did not succeed in making the council depart from their usual procedure of using English internally.