PEN2C
CYNGOR GWYNEDD
SWYDD DISGRIFIAD
TEITL Y SWYDD
Swyddog Datblygu Polisi - Gwasanaethau
GRADDFA
S4 pwyntiau
Cymdeithasol
31-34
ADRAN
Gwasanaethau
GWASANAETH
Busnes
UNED
Gofal Cwsmer
Cymdeithasol
LLEOLIAD
Pencadlys
RHIF SWYDD
ATEBOL I
Swyddog Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol
RHIF SWYDD
PWRPAS Y SWYDD
1. Cyfrifol am arwain ar faes polisi Gwasanaethau Cymdeithasol
2. Cefnogi’r Tîm Rheoli, Rheolwyr Gwasanaeth a Rheolwyr Strategol
Polisi'r Cyngor i ddatblygu a mabwysiadau strategaethau, polisïau,
canllawiau, protocolau a gweithdrefnau addas ar gyfer gwireddu
cyfrifoldebau’r gwasanaeth, yn gynnwys cyfrifoldebau statudol.
CYFRIFOLDEB AM ADNODDAU (e.e. staff, cyllid, offer)
Dim
Adolygwyd 04/04
PEN2C
PRIF DDYLETSWYDDAU A THASGAU ALLWEDDOL
1. Arwain ar gynnal awdit llawn o anghenion polisi y Gwasanaeth, ei adolygu yn rheolaidd a’i
ddiweddaru yn flynyddol wedi hynny.
2. Cyfrifol am ddehongli a dadansoddi anghenion polisi'r Gwasanaeth gan ddatblygu polisïau etc…
newydd a diweddaru rhai presennol yng nghyd destun strategol y Cyngor.
3. Darparu Cyngor arbenigol i Reolwyr ar y maes polisi a cydweithio yn agos a Rheolwyr i ddatblygu a
chytuno ar gynnwys polisiau a phrotocolau.
4. Cefnogi’r broses Cynllunio Busnes yn barhaus drwy fwydo gwybodaeth am unrhyw ddatblygiadau
yn y maes all effeithio’r Gwasanaeth e.e. deddfwriaeth
5. Sicrhau cydlyniad rhwng bolisiau etc… ar draws y Gwasanaeth, y Cyngor ac gyda Partneriaid.
6. Sefydlu trefn i sicrhau fod y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â pholisïau, cyfarwyddyd, strategaethau,
deddfwriaeth ac ymarfer da cenedlaethol ar gael. Yn sgil hyn, trosi anghenion y Gwasanaeth i
mewn i bolisïau, dogfennau gweithredol, canllawiau a phrotocolau lleol.
7. Sicrhau fod polisïau a dogfennaeth y Gwasanaeth yn gyfoes ac yn adlewyrchu cyfrifoldebau
statudol a deddfwriaethol.
8. Sicrhau ansawdd a chysondeb polisïau o fewn y Gwasanaethau
9. Sefydlu mesuriadau a threfniadau i gefnogi monitro effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd polisiau,
strategaethau etc… y Gwasanaeth.
10. Cydweithio gyda chyfranddalwyr eraill i ddatblygu polisïau ar y cyd er mwyn sicrhau darpariaeth
gwasanaeth effeithiol.
11. Cynnal ymchwil i feysydd penodol er mwyn sicrhau fod polisïau'r Gwasanaeth yn seiliedig ar
dystiolaeth.
12. Gweithio gyda Rheolwr Polisi Strategol i adnabod ymarfer da rhanbarthol a chenedlaethol gan
ddefnyddio’r wybodaeth i ddylanwadu polisïau a gweithdrefnau’r Gwasanaeth.
13. Cyfathrebu polisïau a gweithdrefnau'r Gwasanaeth i gyfranddalwyr mewnol ac allanol drwy
ddefnyddio cyfres o wahanol ddulliau.
14. Ymgynghori ar ddatblygiad polisi fel bod defnyddwyr a chyfranddalwyr eraill yn cael mewnbwn i
ddatblygiadau polisïau a gweithdrefnau'r gwasanaeth, drwy gydweithio gyda’r Swyddogion Gofal
Cwsmer.
15. Cydweithio gyda’r Uned Datblygu Gweithlu i adnabod anghenion hyfforddi sydd yn deillio o bolisïau
newydd.
16. Paratoi adroddiadau briffio i dimau rheoli ac Aelodau yn dilyn datblygiadau mewn deddfwriaeth neu
bolisïau cenedlaethol.
17. Cyfrifol am gofrestr ganolog o holl ddogfennaeth perthnasol y Gwasanaethau, yn cynnwys polisïau,
strategaethau, canllawiau, protocolau, gweithdrefnau.
18. Arwain ar ymatebion y Gwasanaeth i ymgynghoriadau cenedlaethol yn ymwneud ar maes Gofal.
19. Cynrychioli’r Gwasanaeth ar grwpiau lleol, cenedlaethol a rhanbarthol.
20. Sefydlu, Cydlynu a chyfrannu at grwpiau tasg penodol fel bo angen.
21. Comisiynu unrhyw waith pellach i gefnogi datblygiadau polisi y Gwasanaeth e.e. ymchwil ar faes
penodol.
22. Sicrhau bod polisiau a phrotocolau’r Gwasanaeth yn cael eu datblygu a’u gwerthuso o fewn cyd-
destun o chyd weithio corfforaethol a phartneriaethol. Bydd hyn yn golygu gweithio’n uniongyrchol a
phartneriaethau eraill (partneriaid statudol, o fewn y Cyngor ac yng nghyd destun gwaith rhanbarthol
/ isrhanbarthol).
23. Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
24. Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir
yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
25. Gweithredu o fewn polisi a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
26. Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill cyfatebol a rhesymol, sy’n cyd-fynd a lefel cyflog a lefel
cyfrifoldeb y swydd.
AMGYLCHIADAU ARBENNIG (e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith
arbennig, a.y.y.b.)
Bydd angen i weithio oriau anghymdeithasol yn achlysurol.
Adolygwyd 04/04
PEN2C
I'w lenwi gan ddeilydd y swydd
LLOFNOD DEILYDD Y
DYDDIAD
SWYDD
LLOFNOD PENNAETH
DYDDIAD
GWASANAETH
Adolygwyd 04/04