Tudalennau cymorth

Cysylltwch â ni

Os nad yw eich cwestiwn yn cael ei ateb yma, neu eich bod jyst eisiau gadael i ni wybod rhywbeth am y wefan, cysylltwch â ni.

Gwneud ceisiadau #

Dydw i ddim yn siŵr i ba awdurdod i wneud cais, sut y gallaf gael gwybod? #

Gall fod yn anodd deall strwythur cymhleth y llywodraeth, a gweithio allan pwy sy’n gwybod y wybodaeth yr ydych ei heisiau. Dyma rai awgrymiadau:

  • Pori neu chwilio WhatDoTheyKnow gan chwilio am geisiadau tebyg i’ch un chi.
  • Pan fyddwch wedi dod o hyd i awdurdod y credwch y gallai fod ganddo’r wybodaeth, defnyddiwch ddolen y "dudalen gartref" ar ochr dde eu dudalen i weld yr hyn y maent yn ei wneud ar eu gwefan.
  • Cysylltwch â’r awdurdod dros y ffôn neu e-bost i ofyn a ydynt yn dal y math o wybodaeth yr hoffech ei chael.
  • Peidiwch â phoeni’n ormodol am gael yr awdurdod cywir. Os ydych yn ei gael yn anghywir, dylent eich cynghori chi i bwy y dylech wneud y cais yn lle.
  • Os oes gennych achos dyrys, cysylltwch â ni am gymorth.
Does gennych chi mo’r awdurdod cyhoeddus yr wyf am wneud cais iddo! #

Cysylltwch â ni gydag enw’r awdurdod cyhoeddus ac, os gallwch ddod o hyd ddo, eu cyswllt cyfeiriad e-bost ar gyfer ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth.

Os hoffech chi helpu i ychwanegu categori cyfan o awdurdodau cyhoeddus at y wefan, byddem wrth ein bodd cael clywed gennych hefyd.

Pam eich bod yn cynnwys rhai awdurdodau nad ydynt yn ffurfiol yn ddarostyngedig i’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth?#

Mae WhatDoTheyKnow yn gadael i chi wneud ceisiadau am wybodaeth i ystod o sefydliadau:

  • Rhai sy’n ddarostyngedig yn ffurfiol i’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth
  • Rhai sy’n ddarostyngedig yn ffurfiol i’r Rheoliadau Amgylcheddol (grŵp nad yw wedi ei ddiffinio cystal)
  • Rhai sy’n cydymffurfio’n wirfoddol â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth
  • Rhai nad ydynt yn ddarostyngedig i’r Ddeddf, ond rydym yn meddwl y dylent fod, ar y sail fod ganddynt gyfrifoldebau cyhoeddus sylweddol

Yn yr achos olaf, rydym yn defnyddio’r safle i lobio am ehangu cwmpas y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Hyd yn oed os nad yw sefydliad yn rhwym yn gyfreithiol i ymateb i gais Rhyddid Gwybodaeth, gallant wneud hynny’n wirfoddol.

Pam mae’n rhaid i mi gadw fy nghais yn gryno? #

Dim ond yr hyn sydd ei angen ddylai fod yn eich cais fel y gall rhywun ddeall yn hawdd pa wybodaeth rydych yn gofyn amdani. Peidiwch â chynnwys unrhyw un o’r canlynol:

  • dadleuon am eich achos
  • datganiadau a allai fwrw anfri neu sarhau eraill

Os byddwch yn gwneud hyn, efallai y bydd yn rhaid i ni dynnu eich cais er mwyn osgoi problemau gyda chyfraith enllib sydd yn boen i chi ac i ni. Mae negeseuon byr cryno yn ei wneud yn haws i awdurdodau dddeall yn glir pa wybodaeth rydych yn gofyn amdani, sy’n golygu y byddwch yn cael ateb yn gynt.

Os ydych am wybodaeth i gefnogi dadl neu ymgyrch, mae Rhyddid Gwybodaeth yn arf pwerus. Er na chewch ddefnyddio’r wefan hon i redeg eich ymgyrch, rydym yn eich annog i’w defnyddio i gael y wybodaeth rydych ei hangen. Rydym hefyd yn eich annog i redeg eich ymgyrch yn rhywle arall - un ffordd effeithiol a hawdd iawn yw i chi ddechrau eich blog eich hun. Mae croeso i chi greu cysylltiad â’ch ymgyrch o’r wefan hon mewn nodyn i’ch cais (gallwch wneud nodiadau ar ôl cyflwyno’r cais).

Ydy’n costio i mi wneud cais? #

Mae gwneud cais Rhyddid Gwybodaeth bron bob amser yn rhad ac am ddim.

Bydd awdurdodau’n aml yn cynnwys llith ddiangen, frawychus, wrth gydnabod negeseuon yn dweud y "gallent" godi ffi. Anwybyddwch rybuddion o’r fath. Ni fyddant bron byth mewn gwirionedd yn codi ffi. Os byddant yn codi ffi, dim ond os ydych wedi cytuno’n benodol ymlaen llaw i dalu y gallant godi tâl arnoch. Rhagor o fanyliongan y Comisiynydd Gwybodaeth.

Weithiau bydd awdurdod yn gwrthod eich cais, gan ddweud bod y gost o drin yn fwy na £600 (ar gyfer llywodraeth ganolog) neu £450 (ar gyfer pob awdurdod cyhoeddus arall). Yn y fan hon, gallwch fireinio eich cais, e.e. byddai'n llawer rhatach i awdurdod ddweud wrthych y swm a wariwyd ar malws melys y llynedd nag yn ystod y deng mlynedd diwethaf.

Pa mor gyflym y caf ymateb? #

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus ymateb yn brydlon i geisiadau.

Hyd yn oed os nad ydynt yn brydlon, ym mron pob achos, rhaid iddynt ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith. Os oedd rhaid i chi egluro eich cais, neu os oeddech wedi gofyn i ysgol, ac mewn achos neu ddau arall, yna mae’n bosibl y cânt fwy o amser (manylion llawn).

Bydd WhatDoTheyKnow yn anfon e-bost atoch os nad ydych yn cael ymateb amserol. Yna, gallwch anfon at yr awdurdod cyhoeddus neges i’w hatgoffa, ac yn dweud wrthynt os ydynt yn torri’r gyfraith.

Beth os na fyddaf byth yn cael ymateb?#

Mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud os ydych byth yn cael ymateb.

  • Weithiau, mae problem go iawn wedi digwydd ac nid yw’r awdurdod erioed wedi derbyn y cais. Mae’n werth ffonio’r awdurdod a gwirio’n gwrtais eu bod wedi derbyn y cais. Cafodd ei anfon atynt drwy e-bost.
  • Os nad ydynt wedi ei dderbyn, mwy na thebyg "hidlyddion sbam" fydd achos y broblem. Cyfeiriwch yr awdurdod at y mesurau yn yr ateb ’gallaf weld cais ar WhatDoTheyKnow, ond chawsom ni mohono erioed drwy e-bost!’ yn yr adran i swyddogion rhyddid gwybodaeth yn yr adran help hon.
  • Os ydych chi’n dal heb unrhyw lwc, yna gallwch ofyn am adolygiad mewnol, ac yna gwyno i’r Comisiynydd Gwybodaeth am yr awdurdod. Darllenwch ’ ein tudalen Anhapus ynghylch yr ymateb a gawsoch?’.
Beth os nad wyf yn fodlon ā’r ymateb? #

Os na chawsoch y wybodaeth y gofynnoch amdani, neu os na dderbynioch chi hi mewn pryd, yna darllenwch ein tudalen ’ Anhapus ynghylch yr ymateb a gawsoch?’.

Mae’n dweud na chaf i ddim ail-ddefnyddio’r wybodaeth a gefais! #

Bydd awdurdodau yn aml yn ychwanegu llith gyfreithiol am "Reoliadau Ail-Defnyddio Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus 2005", sydd ar yr olwg gyntaf yn awgrymu efallai na chewch chi wneud dim â’r wybodaeth.

Fe gewch chi, wrth gwrs, ysgrifennu erthyglau am yr wybodaeth neu ei chrynhoi, neu dyfynnu rhannau ohoni. Rydym hefyd yn meddwl y dylech chi deimlo’n rhydd i ailgyhoeddi’r wybodaeth yn llawn, yn union fel rydym yn ei wneud, er mewn damcaniaeth efallai na fydd caniatâd gennych i wneud hynny. Gweler ein polisi ar hawlfraint.

Allwch chi ddweud mwy wrthyf am fanion y broses o wneud ceisiadau? #

Edrychwch ar dudalennau mynediad i wybodaeth swyddogol ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth.

Os ydych yn gwneud cais am wybodaeth gan awdurdod cyhoeddus yn yr Alban, mae’r broses yn debyg iawn. Mae gwahaniaethau o gwmpas y terfynau amser ar gyfer cydymffurfio. Gweler canllawiau Comisiynydd Gwybodaeth yr Alban am fanylion.

A gaf i wneud cais am wybodaeth amdanaf fi fy hun? #

Na chewch. Mae ceisiadau sy’n cael eu gwneud gan ddefnyddio WhatDoTheyKnow yn gyhoeddus, ac yn cael eu gwneudd o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ac ni allant eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth am unigolyn preifat.

Os hoffech wybod pa wybodaeth y mae awdurdod cyhoeddus yn ei chadw amdanoch eich hun, dylech wneud cais "Hawl i Fynediad" (a elwir hefyd yn "Gais Gwrthrych am Wybodaeth" gan ddefnyddio cyfraith Diogelu Data. Mae gan wefan y Comisiynydd Gwybodaeth ganllaw sy'n esbonio sut i wneud hyn, ond gallwch hefyd ffonio eu llinell gymorth ar 029 2067 8400 (0303 123 1113, yn Saesneg) i gael cyngor.

Os byddwch yn gweld fod rhywun wedi cynnwys gwybodaeth bersonol, yn ddiarwybod o bosibl, mewn cais, cysylltwch â ni ar unwaith er mwyn i ni ei symud.

Hoffwn gadw fy nghais yn gyfrinachol! (O leiaf nes i mi gyhoeddi fy stori) #

Ar hyn o bryd dim ond ar gyfer ceisiadau cyhoeddus y mae WhatDoTheyKnow wedi'i gynllunio. Mae'r holl ymatebion a gawn yn cael eu cyhoeddi'n awtomatig ar y wefan i unrhyw un eu darllen.

Fodd bynnag, mae WhatDoTheyKnowPro yn wasanaeth ar gyfer newyddiadurwyr ac ymgyrchwyr sy'n cynnwys y gallu i ohirio cyhoeddi eich ceisiadau ac ymatebion. Os ydych chi'n newyddiadurwr, yn ymgyrchydd, yn actifydd, neu'n rhywun arall sydd ag angen i wneud ceisiadau am wybodaeth sydd, i ddechrau o leiaf, yn breifat, yna darganfyddwch fwy a chysylltwch â ni.

Pam dim ond gwybodaeth am yr amgylchedd y gallaf ofyn amdani gan rai awdurdodau? #

Mae rhai awdurdodau cyhoeddus, megis Milford Haven Port Authority, nad ydynt yn dod o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ond yn dod o dan ddeddf arall, sef y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (EIR).

Mae’n gyfraith debyg iawn, ac fe wnewch gais iddynt gan ddefnyddio WhatDoTheyKnow yn union yr un ffordd â chais Rhyddid Gwybodaeth. Yr unig wahaniaeth yw y cewch eich atgoffa ar y dudalen lle byddwch yn ysgrifennu eich cais mai dim ond am "wybodaeth amgylcheddol" y cewch ofyn ac mae’n dweud wrthych beth mae hynny’n ei olygu. Mae’n eithaf eang.

Gallwch, wrth gwrs, wneud cais am wybodaeth amgylcheddol gan awdurdodau eraill. Gwnewch gais Rhyddid Gwybodaeth (FOI) fel arfer. Mae’n ddyletswydd ar yr awdurdod i weithio allan ai’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (EIR) yw’r ddeddfwriaeth fwyaf priodol iddynt ymateb o dani.

A gaf i wneud yr un cais i lawer o awdurdodau, ee pob cyngor? #

Rydym yn gofyn i chi yn gyntaf anfon fersiwn brawf o’ch cais i ychydig o awdurdodau. Bydd eu hymatebion yn eich helpu i wella geiriad eich cais, er mwyn i chi gael y wybodaeth orau pan fyddwch yn anfon y cais i bob un o’r awdurdodau. Ar hyn o bryd nid oes system awtomataidd ar gyfer anfon y cais i’r awdurdodau eraill, rhaid i chi gopïo a gludo â llaw.

Gwnes gais heb ddefnyddio’r wefan: sut y gallaf ei lwytho i’r archif?#

Mae WhatDoTheyKnow yn archif o geisiadau a wnaethpwyd trwy’r wefan, ac nid yw’n ceisio bod yn archif o bob cais Rhyddid Gwybodaeth. Fyddwn ni byth yn cynnal llwytho ceisiadau eraill i fyny. Yn un peth, ni fyddem yn gallu cadarnhau bod ymatebion eraill mewn gwirionedd yn dod oddi wrth yr awdurdod. Os yw hyn yn wir yn bwysig i chi, gallwch chi bob amser wneud yr un cais eto drwy WhatDoTheyKnow.

Sut ydych chi’n cymedroli anodiadau ar gais? #

Mae anodiadau ar WhatDoTheyKnow i helpu pobl i gael y wybodaeth sy arnynt ei eisiau, neu i roi awgrymiadau i lefydd y gallant fynd i’w helpu i weithredu arno. Rydym yn cadw’r hawl i ddileu unrhyw beth arall.

Nid yw trafodaethau gwleidyddol diddiwedd yn cael eu caniatáu. Postiwch ddolen i fforwm addas neu wefan ymgyrch mewn man arall.

Nesaf, darllenwch am eich preifatrwydd ->

Newidiadau #

Byddwn yn adolygu'r tudalennau hyn yn gyson, a gallwn wneud newidiadau o bryd i'w gilydd er mwyn sicrhau eu bod yn parhau'n gyfredol ac yn gywir. Gallwch ddod o hyd i grynodeb o'r newidiadau yr ydym wedi'u gwneud yn ein storfa GitHub ond os oes gennych unrhyw gwestiynau, gwnewch cysylltu â ni.