Tudalennau cymorth

Cysylltwch â ni

Os nad yw eich cwestiwn yn cael ei ateb yma, neu eich bod jyst eisiau gadael i ni wybod rhywbeth am y wefan, cysylltwch â ni.

Rheolau tŷ

Sut rydym yn disgwyl i bobl ddefnyddio’r wefan ac ymddwyn wrth wneud hynny

Mae torri unrhyw un o'r rheolau isod yn debygol o arwain at atal eich cyfrif, ac ni fyddwch yn gallu gwneud ceisiadau na diweddariadau ar WhatDoTheyKnow.

Mewn rhai achosion, gallai torri’r rheolau hyn arwain at gamau cyfreithiol yn cael eu cymryd yn eich erbyn gan yr awdurdodau neu barti tramgwyddedig.

Yn ogystal, mae tor-rheolau yn aml yn cymryd cryn dipyn o amser gwirfoddolwyr i ddelio â nhw ac yn peryglu gallu mySociety i redeg y gwasanaeth.

  • Dylech ddefnyddio WhatDoTheyKnow dim ond i ofyn am wybodaeth benodol, nid ar gyfer gohebiaeth gyffredinol ag awdurdodau cyhoeddus, ac yn sicr nid ar gyfer gohebiaeth bersonol.
  • Peidiwch â chynnwys sylwadau a allai fod yn ddifenwol/enllibus (fel honiadau) yn eich ceisiadau ac anodiadau.
  • Peidiwch â phostio gwybodaeth sy’n anghyfreithlon, yn aflonyddu, yn ddifenwol, yn ddifrïol, yn fygythiol, yn niweidiol, yn anweddus, yn wahaniaethol neu’n halogedig
  • Dylech ddefnyddio WhatDoTheyKnow i ofyn am wybodaeth y gallai unrhyw un ddisgwyl ei chael pe byddent yn gofyn amdani yn unig. Os oes gennych hawl benodol i wybodaeth, er enghraifft oherwydd eich bod yn ceisio eich gwybodaeth bersonol eich hun, yna dylech ohebu’n breifat â’r corff cyhoeddus dan sylw i ofyn amdani. Gelwir ceisiadau am eich gwybodaeth bersonol eich hun yn Geisiadau Gwrthrych am Wybodaeth ac mae'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cyhoeddi cyngor ar wneud ceisiadau o'r fath.
  • Cadwch negeseuon a anfonir trwy ein gwasanaeth yn gryno ac yn canolbwyntio'n dynn ar destun y cais am wybodaeth. Gwrandewch ar ein cyngor ar wneud ceisiadau cyfrifol ac effeithiol.
  • Peidiwch â cheisio dynwared rhywun arall.
  • Peidiwch â defnyddio unrhyw iaith sy'n debygol o dramgwyddo yn eich ceisiadau ac anodiadau.
  • Dim sbamio.
  • Rhaid gwneud ceisiadau mewn llythrennau cymysg, h.y. nid pob un mewn priflythrennau ac nid pob un mewn llythrennau bach (mae hyn yn cael ei orfodi'n awtomatig gan y feddalwedd y mae WhatDoTheyKnow yn rhedeg arni).
  • Peidiwch â gwneud ceisiadau blinderus (ceisiadau heb unrhyw ddiben difrifol, neu y bwriedir iddynt amharu ar weithrediad corff cyhoeddus). Mae gan yr ICO ganllawiau ar geisiadau blinderus yma.
  • Peidiwch â defnyddio ein gwasanaeth i ofyn am wybodaeth bersonol pobl eraill a pheidiwch â chynnwys gwybodaeth o'r fath mewn ceisiadau, anodiadau neu ddilyniannau, oni bai ei bod yn deg gwneud hynny.
  • Peidiwch â cheisio osgoi gweithredoedd gweinyddwyr safle trwy, er enghraifft, greu cyfrifon newydd i osgoi gwaharddiad, neu gap cyfyngu ar gyfraddau, neu drwy ailgyhoeddi deunydd y gwyddoch sydd wedi'i ddileu gan gymedrolwyr.

Drwy dorri’r rheolau uchod, rydych mewn perygl o gael eich gwahardd rhag defnyddio’r wefan, a/neu eich ceisiadau/anodiadau’n cael eu dileu. Mewn achosion lle mae’n amlwg nad yw eich bwriadau yn faleisus, byddwn yn c ysylltu â chi yn gyntaf fel y gallwn roi cyngor ar sut i ddefnyddio’r gwasanaeth yn well.

Newidiadau #

Byddwn yn adolygu'r tudalennau hyn yn gyson, a gallwn wneud newidiadau o bryd i'w gilydd er mwyn sicrhau eu bod yn parhau'n gyfredol ac yn gywir. Gallwch ddod o hyd i grynodeb o'r newidiadau yr ydym wedi'u gwneud yn ein storfa GitHub ond os oes gennych unrhyw gwestiynau, gwnewch cysylltu â ni.