Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
Y Broses Apêl
Mae gan Heddlu Dyfed-Powys broses apêl ar gyfer ceiswyr gwybodaeth sy’n
dymuno apelio mewn perthynas â’u cais am wybodaeth. Ni fydd defnyddio’r broses
apêl hon yn effeithio ar hawl ceiswyr i apelio’n uniongyrchol i’r Comisiynydd
Gwybodaeth, os dyna yw eu dymuniad.
Pwy all apelio?
Mae gan unrhyw un sydd wedi gwneud cais am wybodaeth i Heddlu Dyfed-Powys yr
hawl i apelio. Os yw ceisiwr yn anfodlon â’r modd y mae Heddlu Dyfed-Powys wedi
delio â chais am wybodaeth, gall ddefnyddio’r broses apêl er mwyn i’r cais gael ei ail-
ystyried. Os yw person sydd wedi gwneud cais am wybodaeth yn dymuno apelio
ond yn methu â gwneud hynny ei hunan, gall person arall apelio ar ei r/rhan.
Pa bethau all ceisiwr apelio yn eu cylch?
Gall ceisiwr apelio ynghylch amrediad, maint a fformat y wybodaeth a dderbyniwyd
oddi wrth Heddlu Dyfed-Powys mewn ymateb i gais.
Gall ceisiwr hefyd apelio
ynghylch y modd y trafodwyd y cais - er enghraifft, yr amser a gymerwyd i ymateb
neu’r modd y cafodd y llythyr ei eirio.
Sut dylai ceiswyr apelio?
Bydd yn rhaid i geiswyr sy’n dymuno apelio gysylltu ag Uned Rhyddid Gwybodaeth
Heddlu Dyfed-Powys.
I hwyluso materion, dylai’r ceisiwr ddarparu cymaint o
wybodaeth ag sy’n bosib am y cais a’r rheswm am yr apêl. Os oes modd, dylid
dyfynnu cyfeirnod y cais gwreiddiol.
Gellir cysylltu â’r Uned Rhyddid Gwybodaeth yn y cyfeiriad isod:
Uned Rhyddid Gwybodaeth
Heddlu Dyfed-Powys
Blwch Post 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
SA31 2PF
Rhif ffôn: 0845 330 2000
Llinell uniongyrchol: 01267 226596/01267 226297
E-bost:
[email address]
Terfynau amser
Os ydych am gyflwyno apêl, dylech, yn unol ag arweiniad Swyddfa’r Comisiynydd
Gwybodaeth, wneud hynny o fewn dau fis o dderbyn ateb terfynol i’ch cais gan
Heddlu Dyfed-Powys. Yn unol ag arweiniad Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu
(ACPO), nod Heddlu Dyfed-Powys yw delio â phob apêl ac i’w cwblhau cyn gynted
ag sy’n ymarferol ac yn bendant o fewn dau fis o dderbyn yr apêl.
Beth fydd yn digwydd i’r apêl?
ï‚· Pan fydd gan yr Uned Rhyddid Gwybodaeth ddigon o wybodaeth i allu
adnabod y cais gwreiddiol, bydd Heddlu Dyfed-Powys yn cychwyn adolygiad
o’r hyn a ddigwyddodd, a phryd.
 Caiff yr apêl ei chyfeirio at banel o fewn Heddlu Dyfed-Powys. Bydd y panel
yn ymchwilio i’r hyn sydd wedi cymryd lle ac yn penderfynu a yw Heddlu
Dyfed-Powys wedi bod yn deg a thrylwyr yn y modd y deliasant â’r ceisiwr.
Bydd y panel nid yn unig yn ystyried y rhan honno o’r cais sy’n ymwneud â’r
ceisiwr, byddant hefyd yn edrych ar y cais yn ei gyfanrwydd er mwyn canfod
tarddiad y broblem a godwyd gan y ceisiwr.
ï‚· Lle nad yw Heddlu Dyfed-Powys wedi cadw at y drefn gywir neu os yw wedi
methu â darparu gwasanaeth o’r safona uchaf, bydd y ceisiwr yn derbyn
ymddiheuriad ac esboniad o’r trefniadau y bydd Heddlu Dyfed-Powys yn eu
dilyn yn y dyfodol i sicrhau na fydd y fath broblem yn codi eto.
ï‚· Os penderfynir bod Heddlu Dyfed-Powys wedi methu yn ei ddyletswydd i
ddarparu gwybodaeth, yna bydd y wybodaeth honno yn cael ei hanfon i’r
ceisiwr yn ddi-oed. Os daw’r adolygiad i’r casgliad fod yr ymateb gwreiddiol
yn un cywir, yna bydd y ceisiwr yn cael ei hysbysu o hynny.
Hysbysir y
ceiswyr hefyd ynghylch yr opsiynau sy’n agored iddynt.
Apelio i’r Comisiynydd Gwybodaeth
Os yw’r ceisiwr yn dal i fod yn anfodlon yn dilyn yr adolygiad, gall apelio i’r
Comisiynydd Gwybodaeth, a fydd yn gallu ymchwilio i’r achos ar ran y ceisiwr. Mae’r
dewis hwn yn agored i’r ceisiwr ar unrhyw adeg.
Yn ddelfrydol, byddai Heddlu
Dyfed-Powys yn dymuno datrys problemau yn lleol.
Bydd y Comisiynydd
Gwybodaeth yn penderfynu p’un ai i ymchwilio ai peidio.
Gellir cysylltu â swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn y cyfeiriad isod:
Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 08456 30 60 60 or 01625 54 57 45
e-bost:
[email address]
Gwefan:
www.informationcommissioner.gov.uk